Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Mai 2023
Amser:
09.00 -
09.20
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Siân Wilkins, Pennaeth Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 16 Mai 2023
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu pwyllgor Senedd (5 munud)
· Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diwygio etholiadol (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Lleihau llwyth gwaith (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol – Cyhoeddi Cynllun Gweithredu (Cyfnod 1) Adroddiad y Grŵp Arbenigol (30 munud)
Dydd Mawrth 23 Mai 2023
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Wasanaethau Bysiau (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Costau Byw (30 munud)
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud) – gohiriwyd tan 6 Mehefin
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 7 Mehefin 2023 -
3.4 Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i’w amserlennu i’w drafod ar 17 Mai:
Janet Finch-Saunders
NNDM8230
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau bod datblygwyr adeiladau uchel iawn yn gyfrifol am faterion diogelwch.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) creu dyletswydd ar ddatblygwyr i ad-dalu lesddeiliaid am gostau rhesymol a gronnwyd o ganlyniad i faterion diogelwch adeiladau; a
b) gwahardd unrhyw ddatblygwr sy’n gwrthod cyweirio’r diffygion diogelwch tân ar adeiladau a ddatblygwyd ganddynt rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yng Nghymru.
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd ar y canlynol:
5 Rhaglen waith weithdrefnol
5.1 Rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes
Trafododd y Pwyllgor Busnes raglen ddiwygiedig ar gyfer ei waith gweithrefnol, a chytunodd arni, gan gynnwys trafod ymhellach yr eitemau a ganlyn cyn cyn toriad yr haf:
Cytunodd y Pwyllgor i roi ystyriaeth bellach i waith gweithdrefnol a all fod yn ofynnol o ganlyniad i ddiwygio'r Senedd pan fydd deddfwriaeth wedi'i chyflwyno.